Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Hydref 2017
Amser:
09.30 -
12.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4411
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Alex Howells, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Lynne Hamilton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Judith Paget, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Hywel Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Carol Shillabeer, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Eifion Williams, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Huw David, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dave Street, Association of Directors and Social Services (ADSS) |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.
4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i gostau gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.
4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon mewn perthynas ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
4.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion mewn perthynas â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.
4.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn perthynas â pharatoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ddrafft o'r adroddiad ar ei ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr adroddiad eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.